Llenyddiaeth Hen Saesneg

Y corff hanesyddol o lenyddiaeth a ysgrifennwyd yn Hen Saesneg, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o ganol y 7g i ddiwedd y 12g, yw llenyddiaeth Hen Saesneg neu lenyddiaeth Eingl-Sacsoneg. Dyma oesoedd yr Eingl-Sacsoniaid yn hanes Lloegr, rhwng dyfodiad y llwythau Germanaidd o'r Cyfandir i dde-ddwyrain Prydain Fawr yn y 5g a'r 6g a gorchfygiad Lloegr gan y Normaniaid ym 1066. Ymddengys testunau Hen Saesneg ar amryw ffurfiau ac mewn sawl genre, gan gynnwys yr arwrgerdd, bucheddau'r saint, pregethau, trosiadau o'r Beibl, cyfreithiau, croniclau, a dychmygion a damhegion. Mae rhyw 400 o lawysgrifau wedi eu cadw o'r cyfnod hwn, corff sylweddol o lenyddiaeth o'r Oesoedd Canol Cynnar. Maent yn dystiolaeth bwysig o ddatblygiad cynnar yr iaith Saesneg, hanes traddodiadol Lloegr, ac ethnogenesis y Saeson.

O'r holl farddoniaeth yn yr Hen Saesneg, dim ond 30,000 o linellau sydd yn goroesi, wedi eu cadw ym mron i gyd mewn pedwar grŵp o lawysgrifau, sef Llyfr Caerwysg, Llawysgrif Junius (neu gasgliad Bodley), Llyfr Vercelli, a chasgliad Cotton (gan gynnwys llawysgrif Beowulf). Penillion cyflythrennol yw'r brif arddull ym marddoniaeth Hen Saesneg, ac un o'i nodweddion yw dull trosiadol y kenning neu ddyfaliad. Y gerdd hiraf a mwyaf nodedig yn Hen Saesneg yw Beowulf, arwrgerdd genedlaethol y Saeson, a gyfansoddwyd yn yr 8g ar sail hen fytholeg y Germaniaid. Cerdd grefyddol fer gan y bardd Cristnogol Cædmon, a flodeuai yn ail hanner y 7g, ydy'r esiampl hynaf o waith llenyddol yn yr iaith Saesneg. Mae rhyddiaith Hen Saesneg yn cynnwys testunau cyfreithiol, traethodau meddygol, lên grefyddol a didactig, a chyfieithiadau o'r Lladin ac ieithoedd eraill. Mae'r croniclau a gweithiau hanesyddol a lled-hanesyddol tebyg, yn enwedig y Cronicl Eingl-Seisnig, yn dystiolaeth bwysig o'r Oesoedd Canol Cynnar yn Lloegr.

Gwelir gwahanol gyfnodau o ymchwil i lenyddiaeth Hen Saesneg yn yr oes fodern. Yn y 19g a dechrau'r 20g, anterth yr ieithegwyr, canolbwyntiai ysgolheigion ar wreiddiau Germanaidd yr Eingl-Sacsoniaid. Yn ddiweddarach, tynnwyd sylw at rinweddau llenyddol yr amryw destunau. gan fynd i'r afael â llenyddiaeth Hen Saesneg o safbwynt y beirniad yn hytrach na'r hanesydd. Mewn ymchwil cyfoes, rhoddir y pwyslais ar baleograffeg, sef astudiaeth y llawysgrifau eu hunain. Mae ysgolheigion yn trin a thrafod sawl pwnc yn y maes gan gynnwys canfod dyddiad, tarddiad, ac awduraeth testunau, a'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Hen Saesneg ac ieithoedd eraill Ewrop yn yr Oesoedd Canol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search